Disgybl

Lafa yn y Labordy - Taflen Waith y Disgybl

Archwilio’r ffactorau sy’n effeithio ar ludedd (natur hylifol) triogl. Beth yw’r berthynas rhwng gludedd a’r gwahanol ffurfiau o losgfynyddoedd sydd i’w canfod ar y Ddaear ac ar y blaned Mawrth?

Ffurfiant Creicaen - Taflen Waith y Disgybl

Fe fyddwch yn efelychu ffurfiant creicaen ar y Ddaear ac ar y Lleuad. Fe fydd angen i chi ddilyn y dull sy’n cael ei nodi yn y daflen waith yma, trafod pa broses y mae pob rhan o’r arbrawf yn ei chynrychioli ac ateb y cwestiynau. Yna, fe fydd pawb yn y dosbarth yn cymharu ac yn cyferbynnu’r broses sy’n ffurfio creicaen ar y Ddaear ac ar y Lleuad.

Dilyn y Meteoryn sy'n Cwympo - Taflen Waith y Disgybl

Bydd y disgyblion yn dilyn llwybr meteor gan ddefnyddio triongliant ac yn darogan lle y caiff ei feteorynnau eu darganfod. Gellir ymestyn y wers trwy gyfrifo cyflymder meteor a deall sut mae gwyddonwyr yn gallu pennu cylchdro gwreiddiol meteor yn y gofod.