Ffurfiant Creicaen - Taflen Waith y Disgybl

Fe fyddwch yn efelychu ffurfiant creicaen ar y Ddaear ac ar y Lleuad. Fe fydd angen i chi ddilyn y dull sy’n cael ei nodi yn y daflen waith yma, trafod pa broses y mae pob rhan o’r arbrawf yn ei chynrychioli ac ateb y cwestiynau. Yna, fe fydd pawb yn y dosbarth yn cymharu ac yn cyferbynnu’r broses sy’n ffurfio creicaen ar y Ddaear ac ar y Lleuad.