Athro

Lafa yn y Labordy - Arweiniad yr Athro

Archwilio’r ffactorau sy’n effeithio ar ludedd (natur hylifol) triogl. Beth yw’r berthynas rhwng gludedd a’r gwahanol ffurfiau o losgfynyddoedd sydd i’w canfod ar y Ddaear ac ar y blaned Mawrth?

Ffurfiant Creicaen - Arweiniad yr Athro

Bydd y disgyblion yn archwilio effaith y gwynt, sgwrio â thywod, a dŵr ar ffurfiant creicaen ar y Ddaear. Ar ôl trafod p’un ai a ydynt yn meddwl fod creicaen y Lleuad yn ymffurfio yn yr un modd, bydd y disgyblion yn efelychu ffurfiant creicaen ar y Lleuad o ganlyniad i belediad gan feteorynnau.

Gwybodaeth Gefndir - Arweiniad yr Athro: Meteorynnau

Meteorynnau: Beth ydynt, ac o ble maent yn dod?

Dilyn y Meteoryn sy'n Cwympo - Arweiniad yr Athro

Bydd y disgyblion yn dilyn llwybr meteor gan ddefnyddio triongliant ac yn darogan lle y caiff ei feteorynnau eu darganfod. Gellir ymestyn y wers trwy gyfrifo cyflymder meteor a deall sut mae gwyddonwyr yn gallu pennu cylchdro gwreiddiol meteor yn y gofod.